Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Gwastadeddau Gwent


13 St Pierre


13 ardal gymeriad St Pierre: tir a adferwyd o amgylch aber/dyffryn St. Pierre Pill. (Ffoto: GGAT Gwent Levels2 002)

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

Cefndir Hanesyddol

Cysylltiadau (hy croesfan fferi/man glanio hirsefydledig), patrwm caeau afreolaidd, nodweddion draenio (ffosydd draenio, cefnennau/draeniau agored), morglawdd, anheddiad ar ymyl y ffen (canoloesol), cysylltiadau hanesyddol

Ni wyddom pryd yr adferwyd y tir, ond mae'n debyg i hynny ddigwydd yn y cyfnod canoloesol. Yn ddiau câi'r dyffryn ei foddi gan y llanw yn y cyfnod ôl-Rufeinig.

Mae i'r ardal hon hanes hir o gysylltu dros foryd Hafren. Mae gan St. Pierre Pill yn arbennig gysylltiadau dogfennol pwysig iawn. Fe'i cofnodir fel man glanio yn y cyfnod ôl-Rufeinig, a oedd yn gysylltiedig â Sant Teudrig. Mae ffynhonnell yn dyddio o'r nawfed ganrif yn rhoi'r disgrifiad cyntaf o gylch y llanw ym Mhrydain.

Rhedai croesfan fferi ganoloesol/ôl-ganoloesol bwysig o Sudbrook Point. Dichon i'r groesfan hon gael ei sefydlu yn y cyfnod Rhufeinig, gan fod cryn dipyn o ddeunydd Rhufeinig wedi'i ddarganfod yn yr ardal. Mae Ail Bont Hafren yn croesi'r Moryd ychydig i'r de.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Mae'r ardal hon yn barsel ar wahân o lifwaddod arfordirol, sydd â chreigwely ar dair ochr iddi. Mae gorlifdir eang sy'n arwain i'r gogledd at eglwysi Mathern a St.Pierre yn rhan annatod o'r Gwastadedd.

Mae i'r ardal hon "dirwedd afreolaidd" a'i chanolbwynt yw nodwedd sylweddol St. Pierre Pill. Mewn mannau mae'r ardaloedd o lifwaddod ar y naill ochr a'r llall i'r "Pill" yn eithaf cul, er y ceir ardal helaethach i'r de-orllewin, dan gysgod Sudbrook Point.

Ceir olion cefnennau, yn arbennig i'r de-orllewin. Mae'r morglawdd yn wrthglawdd isel syml, nas atgyfnerthwyd â choncrid modern. Mae ymyl ffen di-dor rhwng y llifwaddod a'r ucheldiroedd. Mae nifer o ffermydd ar hyd y lleoliad anheddu ardderchog hwn gan gynnwys Wallstone, anheddiad a sefydlwyd yn ôl pob tebyg gan arglwyddi Seisnig y Mers yn niwedd yr unfed ganrif ar ddeg neu yn y ddeuddegfed ganrif.

Mae'r ardal hon, y mae'n well meddwl amdani efallai fel gorlifdir estynedig, yn unigryw yn y Gwastadeddau. Cyfyngedig yw'r amrywiaeth o elfennau tirwedd, ond maent wedi'u cadw mewn cyflwr gweddol dda.

Mae'r rhan fwyaf o'r gwrychoedd yn rhai prysglog gyda nifer dda o goed aeddfed. Ceir rhywfaint o dir âr.

Mae'r dirwedd hon yn eithaf cydlynus, ac mae wedi cadw llawer o'i gyfanrwydd. At ei gilydd mae mewn cyflwr da, er ei bod yn cael ei rhannu'n ddwy gan y llinell reilffordd ar arglawdd; mae cyfres o beilonau hefyd yn ymwthiol yn weledol, ond ceir golygfeydd ardderchog o'r ddwy bont dros foryd Hafren. Mae cyfeiriadau dogfennol cynnar pwysig iawn at St. Pierre Pill.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk